Darllediad o ffeinal cystadleuaeth fawr Junior Eurovision yn Gliwice, Gwlad Pwyl, lle fydd Erin Mai yn cynrychioli Cymru.
Dydd Sul, Tachwedd 24, 3pm S4C
138 munud
Darllediad o ffeinal cystadleuaeth fawr Junior Eurovision yn Gliwice, Gwlad Pwyl, lle fydd Erin Mai yn cynrychioli Cymru.
Dydd Sul, Tachwedd 24, 3pm S4C
138 munud
Mae Rondo yn falch eithriadol fod gennym ni lysgennad yn ein plith. Cafodd Lleucu Gruffydd ei henwebu gan Archifdy Ceredigion i fod yn un o Lysgenhadon Archif newydd y Llyfrgell Genedlaethol, a hynny yn sgil ei gwaith ar y gyfres deledu Cynefin (Rondo/S4C). Bydd Lleucu yn cyfrannu at lawns Archwilio Archif Cymru yn Aberystwyth ar y 25ain o Dachwedd.
Bydd Heledd Cynwal, Iestyn Jones a Siôn Tomos Owen yn cychwyn cyfres newydd o Cynefin trwy grwydro o amgylch tref fwyaf gogleddol Cymru, oedd ar un adeg yn un o drefi pwysicaf y byd. Byddwn yn clywed am fywyd llongwyr fu’n hwylio i bedwar ban byd o borthladd Amlwch, yn cael hanes un o arwyr y Rhyfel Mawr ac yn cael cyfle i grwydro rhai o dwneli tanddaearol anghredadwy gwaith copr Mynydd Parys.
Nos Sul, Tachwedd 3, 8.25 S4C
12 x 60″
Yn ôl ar S4C â chyfres newydd sbon eleni, mae deuawd mwyaf lliwgar y sianel am fentro ymhellach nac erioed a hynny heb eu hannwyl gwch hwylio. Bydd yr actor enwog o Fôn; John Pierce Jones, a’r diddanwr o Lŷn; Dilwyn Morgan yn hedfan i’r Unol Daliaethau, gwlad sydd wedi bod yn uchel ar restr teithio’r ddau erioed.
Yn y bennod gyntaf mi fydd y ddau yng nghanol goleuadau llachar Efrog Newydd yn ymweld â Ynys Ellis, lle bu i aelod o deulu John deithio yno dros gan mlynedd yn ôl. Byddant hefyd yn cwrdd â mewnfudwyr Cymreig mwyaf diweddar y ddinas, ac yn cael cyfle i chwarae pêl-fâs gyd chriw o elusen ieuenctid yn Nwyrain Harlem sy’n gwneud iddynt sylwi nad yw eu hoedrn yn rwystr i unrhyw antur. Fodd bynnag, buan maent yn sylwi bod teithio mewn camperfan yn llai esmwyth na’r disgwyl.
Nos Lun, Hydref 21, 8.25 S4C
6 x 30”
Mae Rondo yn chwilio am ffilmiau cartref o Bont Britannia, Pont Menai a’r ardaloedd cyfagos o’r 1960au hyd heddiw. Gallai’r lluniau fod o gychod ar y culfor, lluniau o’r tân, yr ailadeiladu neu ddiwrnod agor y lôn newydd dros y bont. Unrhyw beth sy’n rhoi teimlad o le ac amser. Mae hon ar gyfer rhaglen ddogfen ar gyfer S4C a’r BBC sy’n dathlu hanes Pont Britannia.
Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn siarad â phobl sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r bont mewn unrhyw ffordd dros y blynyddoedd, yn enwedig llygad-dystion i’r tân a phobl a fu’n rhan o’r ailadeiladu.
Os hoffech chi rannu’ch stori, neu os oes gennych chi luniau neu fideo, cysylltwch â ni:
(01286) 675722
Mae Chwilio am Seren Junior Eurovision yn dod yn ôl i’r sgrin yn 2019. Dyma gyfle i ddarganfod perfformiwr/ perfformwraig ifanc i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth fawreddog Junior Eurovision 2019 a fydd yn cael ei chynnal eleni yng Ngwlad Pwyl. Yn y rhaglenni cychwynnol, cawn gwrdd ag ystod eang o berfformwyr ifanc, dawnus, yn ystod y broses o ddewis a dethol y rhai a fydd yn cyrraedd y brig.
Chwilio am Seren
Nos Fawrth, Medi 03, 20.00 S4C
60’ x 3
Ffeinal Cymru
Nos Fawrth, Medi 24, 20.00 S4C
Y Rownd Derfynol
Darllediad Byw o Gliwice, Gwlad Pwyl
Dydd Sul, Tachwedd 24, 15.00 S4C
Cynhelir yr ail gystadleuaeth o Gôr Eurovision yn Arena Partille, Gothenburg, Sweden. Bydd 10 o gorau amatur mwyaf arbennig Ewrop yn ceisio creu argraff ar banel o sêr corawl rhyngwladol trwy berfformio detholiad o gerddoriaeth heb gyfeiliant mewn amryw o arddulliau gwahanol. Yn cynrychioli Cymru y bydd côr buddugol cystadleuaeth Côr Cymru 2019, sef Ysgol Gerdd Ceredigion. Morgan Jones sy’n cyflwyno, gyda hanner awr o ragflas yn gyntaf yn dilyn y côr wrth iddyn nhw baratoi cyn y cystadlu.
Côr Eurovision 2019 – Y Daith i Gothenburg
Nos Wener, Awst 2, 18.35 S4C
1 x 25″
Côr Eurovision
Nos Sadwrn, Awst 3, 19.00 S4C
1 x 135″
Roedd hi’n wych gweld sylw i un o gyfresi Rondo mewn gŵyl ryngwladol nodedig dros y penwythnos. Un o themâu Gŵyl Gelfyddydol Ryngwladol Galway eleni ydoedd waliau a ffiniau. Yn sgil yr ymateb ardderchog i gyfres Y Wal (neu An Balla ar TG4) cafodd Caryl Ebenezer (cynhyrchydd Y Wal Rondo/ S4C), ynghyd â Síle Nic Chonaonaigh (cyflwynydd fersiwn TG4) a rhai o gyfranwyr rhyngwladol y gyfres, eu gwahodd i sôn am y profiad o gyd-gynhyrchu’r gyfres arbennig yma.
Hanner canrif ers arwisgo Tywysog Charles yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon, y canwr protest a’r ymgyrchydd iaith Dafydd Iwan sy’n mynd ar daith bersonol yn edrych o’r newydd ar un o ddigwyddiadau mwya’ dadleuol yr 20fed ganrif yng Nghymru.
Nos Sul, Gorffennaf 7, 20.00 S4C
1 x 60″
Fe fydd rhai o dimau Pêl Rwyd gorau’r byd yn heidio i Gaerdydd i herio tîm cenedlaethol Cymru fis nesaf a bydd modd gwylio dwy gêm yn fyw ar S4C.
Fel rhan o’r Gemau Prawf yr Haf 2019, mi fydd Cymru yn chwarae’n erbyn Malawi, y tîm sydd chweched ar restr detholion y byd, ar ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf, yn y Viola Arena. Y diwrnod canlynol, ar ddydd Sul 7 Gorffennaf, mi fydd tîm Julie Hoornweg yn herio’r tîm sydd yn ddegfed ar restr y byd ar hyn o bryd ac un safle uwchben Cymru, Trinidad a Tobago.