Rondo Media Rondo Media Rondo Media Rondo Media
  • Gwasanaethau
    • Cynhyrchu & Stiwdio
    • Uned Ddarlledu Allanol
  • Cynyrchiadau
  • Newyddion
  • Digidol
  • Cysylltu
  • English
Cau
  • Gwasanaethau
    • Cynhyrchu & Stiwdio
    • Uned Ddarlledu Allanol
  • Cynyrchiadau
  • Newyddion
  • Digidol
  • Cysylltu
  • English

Cynyrchiadau

penseiri teledu penigamp

Drama

Mae Rondo Media yn ymfalchïo yn ei chynyrchiadau drama safonol. Mae’r gyfres Rownd a Rownd (S4C) bellach yn ei phedwaredd tymor ar hugain ac wedi dathlu ei milfed pennod nôl yn Ionawr 2014. Mae’r gyfres a enwebwyd am wobr Kidscreen bellach wedi sefydlu ei hun yn un o gonglfeini amserlen S4C. Mae The Indian Doctor (BBC One/ dosbarthu rhyngwladol gan Content Media) yn ddrama gyda Sanjeev Bhaskar yn serennu fel doctor Indiaidd o ddysg sydd, wedi ei ddenu gan addewid yr NHS a Llundain bywiog y ‘60au, yn canfod ei hun mewn meddygfa pentref gloafol yn Ne Cymru. Mae The Gospel of Us yn addasiad ffilm o’r digwyddiad theatr arloesol gyda Michael Sheen.  Perfformiwyd digwyddiad theatraidd cyfoes Passion ar strydoedd Port Talbot gyda phobl leol yn gast, criw ac arwyr. Mae Gwlad yr Astra Gwyn (S4C), enillydd gwobr Gŵyl Cyfryngau Celtaidd, wedi ei gosod yn gyfan gwbl mewn tacsi, gan greu “byd” cyfan y tu mewn i gaban ble mae byrhoedledd nos Sadwrn yn cael ei bortreadu gan ymddangosiadau sydyn myrdd o gymeriadau a arweinir gan Trefor (Rhodri Meilir), y gyrrwr tacsi hygoelus.

Ffeithiol

Mae’r cwmni yn gynhyrchydd balch nifer o raglenni dogfen pwerus gan gynnwys My Tattoo Addiction (Channel 4/ gwerthiant rhyngwladol BBC Worldwide); astudiaeth o bobl sy’n mynd o dan y nodwydd sy’n gadael llygaid y gwyliwr yn dyfrio ar brydiau! Enillydd Bafta Y Trên i Ravensbrück; taith emosiynol y teulu Gruffydd o Gymru i’r Almaen i ddysgu mwy am ddioddefaint y teulu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Malcolm Allen: Un Cyfle Arall; rhaglen ddogfen llawn emosiwn gan un o bêl-droedwyr mwyaf talentog Cymru am ei frwydr gydag alcohol. Gohebwyr: Wyre Davies gyda’r gohebydd BBC yn mynd ar daith i ddysgu mwy am ei dad-cu a fu bron a chael ei ladd mewn llongddrylliad dramatig ger arfordir de Chile. Hillsborough: Yr Hunllef Hir; stori ddirdynol trychineb Hillsborough, Sheffield lle bu farw 96 o gefnogwyr Lerpwl mewn gêm bêl-droed ar y 15fed o Ebrill 1989. Cipiodd y rhaglen wobr arbennig ‘Ysbryd yr Ŵyl’ yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd Llanelli 2018.

Cerddoriaeth a Digwyddiadau

Yn gwmni annibynnol blaenllaw ym maes rhaglenni cerddoriaeth glasurol, mae Rondo wedi bod yn bartner darlledu Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ers 1994, gan gynhyrchu rhaglenni byw ac uchafbwyntiau cystadlaethau a chyngherddau yn ystod wythnos yr Eisteddfod (S4C a BBC). Mae platfformau digidol gwefan llangollen.tv ynghyd a’r ap wedi denu cannoedd o filoedd o gynulleidfa fyd-eang. Mae digwyddiadau megis Roald Dalh’s City of the Unexpected (BBC Wales) WOMEX: Caerdydd (BBC ac S4C), Côr Cymru (S4C), Band Cymru (S4C) a Gŵyl Gerdd Dant (S4C a BBC Radio Cymru) yn dystiolaeth bellach o gynyrchiadau uchelgeisiol a heriol o bortffolio eang ac amrywiol y cwmni.

Adloniant Ysgafn

Diddanu yw ein busnes. Mae ein cynhyrchiad Chwilio am Seren: Junior Eurovsion yn gystadleuaeth newydd sbon sy’n cynnig cyfle unigryw i gynrychioli Cymru yn un o gystadlaethau canu mwya’r byd i bobol ifanc – sef y Junior Eurovision Song Contest 2018 yn Minsk, Belarws. Dyma gyfle bythgofiadwy i sêr ifanc y dyfodol arddangos eu doniau a gwireddu breuddwyd.

Chwaraeon

Dros 30 mlynedd o brofiad cynhyrchu rhaglenni pêl-droed ynghyd a chynnwys digidol arloesol i S4C, mae profiad Rondo o gynhyrchu pêl-droed rhyngwladol a domestig i raglenni Sgorio yn cynnwys darlledu pêl-droed byw mor bell ac agos â Reykjavik, Vaduz, Podgorica, Helsinki a Hwlffordd! Ym mis Medi 2018 cyhoeddodd S4C gytundeb arbennig Sgorio i ddarlledu pob un o gemau Cymru yn nhwrneimant Cynghrair y Cenhedloedd UEFA a gemau rhagbrofol Pencampwriaeth UEFA Ewro 2020  –  16 o gemau byw.


Notice: Undefined variable: on_attributes in /home/rondomediaco/public_html/wp-content/themes/ibuki/vc_extend/vc_templates/az_portfolio_grid.php on line 753

Cantata Memoria

Cantata Memoria

City of the Unexpected

Ffeithiol BBC

City of the Unexpected

The Gospel of Us

Ffilm

The Gospel of Us

Band Cymru

Ffilm

Band Cymru

Matt Johnson: Iselder a Fi

Ffilm

Matt Johnson: Iselder a Fi

Gwlad yr Astra Gwyn

Comedi S4C

Gwlad yr Astra Gwyn

Rownd a Rownd

Drama S4C

Rownd a Rownd

Chwilio am Seren: Junior Eurovision

Adloniant Ysgafn

Chwilio am Seren: Junior Eurovision

Côr Cymru

Adloniant Ysgafn

Côr Cymru

Arfordir Cymru

Adloniant Ysgafn

Arfordir Cymru

Codi Hwyl

Dogfen S4C / Dogfen S4C / Dogfen S4C / Dogfen S4C

Codi Hwyl

Hillsborough: Yr Hunllef Hir

Dogfen S4C / Dogfen S4C / Dogfen S4C / Dogfen S4C

Hillsborough: Yr Hunllef Hir

Dechrau Canu Dechrau Canmol

Crefydd S4C

Dechrau Canu Dechrau Canmol

The Indian Doctor

Drama BBC

The Indian Doctor

My Tattoo Addiction

Dogfen Channel 4

My Tattoo Addiction

Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

Cerddoriaeth Byw / Cerddoriaeth Byw / Cerddoriaeth Byw / Cerddoriaeth Byw

Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

Rhyfel Fietnam

Ffeithiol S4C

Rhyfel Fietnam

Sgorio / Mwy o Sgorio

Chwaraeon S4C

Sgorio / Mwy o Sgorio
© 2018 Rondo Media


Rhan o Grŵp Rondo Media

Rhan o Grŵp Rondo Media

Polisi Preifatrwydd

Junior Eurovision: Y Ffeinal
Junior Eurovision: Y Ffeinal

24 Tachwedd, 2019

Llysgennad Archif
Llysgennad Archif

8 Tachwedd, 2019

  • Mae Cynllun Carlam Ffeithiol Cymru yn gwrs hyfforddi wedi ei ariannu gan @BBCWales @Channel4 @S4C Factual Fast Tra… https://t.co/0mWB6L5WS109:17 AM 04/12/2019
  • Pob hwyl i holl gystadleuwyr @EisteddfodCFFI @CFfICymru #FfermwyrIfanc #Wrecsam 🚜🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 📺 Nos Sadwrn 7.30 @S4C… https://t.co/xe1UJMy1mQ03:20 PM 29/11/2019
  • 🎥 Clwb Plu Eira 🕰 heno | tonight 10.45 @S4C 🎬 cyfarwyddo: Alaw Llewelyn, un o griw cynhyrchu @rowndarownd https://t.co/6YzC8YlhQX10:39 PM 27/11/2019