Drama
Mae Rondo Media yn ymfalchïo yn ei chynyrchiadau drama safonol. Mae’r gyfres Rownd a Rownd (S4C) bellach yn ei hugeinfed tymor ac wedi dathlu ei milfed pennod nôl yn Ionawr 2014. Mae’r gyfres a enwebwyd am wobr Kidscreen bellach wedi sefydlu ei hun yn un o gonglfeini amserlen S4C. Mae The Indian Doctor (BBC One/ dosbarthu rhyngwladol gan Content Media) yn ddrama gyda Sanjeev Bhaskar yn serennu fel doctor Indiaidd o ddysg sydd, wedi ei ddenu gan addewid yr NHS a Llundain bywiog y ‘60au, yn canfod ei hun mewn meddygfa pentref gloafol yn Ne Cymru. Mae The Gospel of Us yn addasiad ffilm o’r digwyddiad theatr arloesol gyda Michael Sheen. Perfformiwyd digwyddiad theatraidd cyfoes Passion ar strydoedd Port Talbot gyda phobl leol yn gast, criw ac arwyr. Mae Gwlad yr Astra Gwyn (S4C), enillydd gwobr Gŵyl Cyfryngau Celtaidd, wedi ei gosod yn gyfan gwbl mewn tacsi, gan greu “byd” cyfan y tu mewn i gaban ble mae byrhoedledd nos Sadwrn yn cael ei bortreadu gan ymddangosiadau sydyn myrdd o gymeriadau a arweinir gan Trefor (Rhodri Meilir), y gyrrwr tacsi hygoelus.
Ffeithiol
Mae’r cwmni yn gynhyrchydd balch nifer o raglenni dogfen pwerus gan gynnwys My Tattoo Addiction (Channel 4/ gwerthiant rhyngwladol BBC Worldwide); astudiaeth o bobl sy’n mynd o dan y nodwydd sy’n gadael llygaid y gwyliwr yn dyfrio ar brydiau! Enillydd Bafta Y Trên i Ravensbrück; taith emosiynol y teulu Gruffydd o Gymru i’r Almaen i ddysgu mwy am ddioddefaint y teulu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Malcolm Allen: Un Cyfle Arall; rhaglen ddogfen llawn emosiwn gan un o bêl-droedwyr mwyaf talentog Cymru am ei frwydr gydag alcohol. Gohebwyr: Wyre Davies gyda’r gohebydd BBC yn mynd ar daith i ddysgu mwy am ei dad-cu a fu bron a chael ei ladd mewn llongddrylliad dramatig ger arfordir de Chile. Mae Rondo ar hyn o bryd yn cynhyrchu fersiwn Cymraeg o Nordic Wild i S4C ac yn cydweithio gyda chwmni o Dde Korea ar gyd-gynhyrchiad i nodi trigain mlynedd ers Rhyfel Korea.
Cerddoriaeth a Digwyddiadau
Yn gwmni annibynnol blaenllaw ym maes rhaglenni cerddoriaeth glasurol, mae Rondo wedi bod yn bartner darlledu Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ers 1994, gan gynhyrchu rhaglenni byw ac uchafbwyntiau cystadlaethau a chyngherddau yn ystod wythnos yr Eisteddfod (S4C a BBC). Mae platfformau digidol gwefan llangollen.tv ynghyd a’r ap wedi denu cannoedd o filoedd o gynulleidfa fyd-eang. Mae digwyddiadau megis WOMEX: Caerdydd (BBC ac S4C), Côr Cymru (S4C) a Gŵyl Gerdd Dant (S4C a BBC Radio Cymru) yn dystiolaeth bellach o gynyrchiadau uchelgeisiol a heriol o bortffolio eang ac amrywiol y cwmni.
Adloniant Ysgafn
Diddanu yw ein busnes. Mae Rondo yn cynhyrchu’r chweched gyfres o’r sioe Pryd o Sêr, lle mae nifer o Gymry cyfarwydd yn wynebu heriau gastronomegol a llawer, llawer mwy! Ymhlith yr wyth sy’n cystadlu y tro hwn mae’r arweinydd Tim Rhys Evans, yr athletwr Aled Sion Davies, yr actores Rhian Jones a’r cyflwynydd John Hardy. Wedi ei ysbrydoli gan ffwlbri sydd i’w weld ar y we, mae Gwefreiddiol, cwis sydd yn cael ei ffilmio yn ein stiwdio yn Rondo Caernarfon, bellach ar ei phumed cyfres gydag enwogion Cymru yn diddanu’r genedl ac yn cael hwyl ar ben y byd digidol.
Chwaraeon
Gyda dros 25 mlynedd o brofiad cynhyrchu rhaglenni pêl-droed ynghyd a chynnwys digidol arloesol i S4C, mae profiad Rondo o gynhyrchu pêl-droed rhyngwladol a domestig i raglenni Sgorio yn cynnwys darlledu pêl-droed byw mor bell ac agos â Reykjavik, Vaduz, Podgorica, Helsinki a Hwlffordd! Buddsoddwyd £400,000 mewn stiwdio bwrpasol yn Rondo Caernarfon er mwyn darlledu Clwb, gwledd pum-awr o chwaraeon i S4C sy’n cynnwys gemau byw, pecynnau uchafbwyntiau lu o wahanol chwaraeon a llwyfan gogyfer barn a dadansoddi campau.