Llwyddiant yn BAFTA Cymru
Dydd Llun, 07 Mehefin 2010 10:58

Mae Rondo wedi ennill 2 wobr yn seremoni Bafta Cymru gynhaliwyd yng Nghanolfan y Mileniwm ar y 23ain o Fai. Llongyfarchiadau mawr i Dudley Newbery a Garmon Emyr a chriw'r gyfres 'Pryd o Sêr' am ennill y wobr ar gyfer y gyfres adloniant ysgafn gorau.

Llongyfarchiadau hefyd i Martyn Rourke enillodd gategori y Cyfarwyddwr Goleuo Gorau am ei waith arbennig ar Gyngerdd Dathlu Karl Jenkins.