|

Mae gan Rondo lu o ddanteithion ar eich cyfer ar y teledu dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a bydd yr arlwy yn dechrau, fel yr arfer, gyda'r Carolau o Langollen.
Dechreuwch y dathlu yng nghwmni Gwyn Hughes Jones, Al Lewis, Côr Ysgol Pen Barras, Côr Crescendo a Chôr Meibion Y Rhos yn ogystal â Band Pres Llaneurgain a sawl gwestai arall yn y gwasanaeth flynyddol o Bafiliwn Llangollen.
Carolau o Langollen: S4C am 2100 ar 22 Rhagfyr
Bydd rhaglen arbennig o Tîm Talent wrth i Ifan a'r tîm ymweld ag Ysgol Syr Thomas Jones, Amwlch er mwyn ychwanegu bach o sglein i'w sioe Haleliwia, mae'n Ddolig.
Bydd y digrifwr dawnus Iwan John, y gantores adnabyddus Mirain Haf a'r cynllunydd profiadol Leah Hughes yn rhannu eu profiadau ac arbenigedd gyda'r disgyblion ifanc er mwyn sicrhau fod y sioe yn un fythgofiadwy a bod y gynulleidfa'n cael ei syfrdannu'n llwyr.
Tîm Talent: S4C am 1700 ar 23 Rhagfyr
Ac er mwyn dathlu cyfres newydd Rownd a Rownd fydd yn dechrau ym mis Ionawr, bydd tair rhaglen arbennig yn edrych yn ôl trwy archif trigolion Cilbedlam ac yn datgelu ambell i gyfrinach!

Rownd a Rownd Nôl a Mlaen: S4C am 1830 ar 27, 28 a 28 Rhagfyr
Ac wrth gwrs, peidiwch ag anghofio am y gyfres newydd o Rownd a Rownd fydd yn dechrau yn y flwyddyn newydd. Fydd Wyn yn darganfod pwy sydd wedi dwyn ei arian? Beth sydd wedi digwydd i Sara?
Rownd a Rownd: S4C am 1830 ar 2 Ionawr
Mewn rhaglen arbennig i'w darlledu dros yr ŵyl, mae Rondo wedi treulio blwyddyn yng nghwmni Mark Evans o Lanrhaeadr ger Dinbych.
Mae Mark wedi ymddangos mewn rhai o sioeau cerdd enwocaf y byd theatre fel High School Musical, The Rocky Horror Show ac Oklahoma ac hefyd wedi cychwyn ar fenter newydd i hybu talent ifanc Cymru i geisio cyrraedd y West End.
Mark Evans - Llanrhaeadr a Llundain: S4C am 2025 ar 29 Rhagfyr

Mae hi bron yn draddodiad Nadoligaidd erbyn hyn i Dudley Newbury dywys wyth o sêr S4C ar wibdaith gogyddol o amgylch Cymru mewn tair rhaglen Pryd o Sêr. Bydd y cogydd yn eu herio er mwyn darganfod pwy sydd yn ymdopi orau yng ngwres y gegin a phwy fydd yn gallu gorffen y gyfres gan goginio pryd tri chwrs?
Yr wyth dewr sydd wedi derbyn yr her yw Ffion Dafis, Sian Lloyd, Courtney Hamilton, Eleanor Burnham, Hywel Davies, Wyn Davies, Rhodri Williams a Steffan Rhodri.
Pryd o Sêr: S4C am 1915 ar 27, 28 a 29 Rhagfyr a'r rownd derfynol am 2025 ar 30 Rhagfyr
Bydd Sgorio yn dod â holl hynt a helyntion pêl-droed yr ŵyl i chi yng nghwmni Dylan Ebenezer, John Hartson a Malcolm Allen ac mae'n siwr o fod yn brynhawn emosiynol wrth i Fangor chwarae eu gêm olaf ar Ffordd Farrar cyn symud i'w cartref newydd.
Sgorio: Bangor v Prestatyn S4C am 1400 ar 27 Rhagfyr
A chofiwch am ragleni Digwyddiadau 2011. Ar noswyl y Nadolig bydd cyfle i ymuno yn ysbryd yr Ŵyl wrth i Digwyddiadau 11: Nadolig y Plant gymryd cipolwg ar bedair ysgol gynradd berfformio sioeau gwreiddiol y Nadolig.
Ac ar Nos Calan bydd Digwyddiadau 11: Blwyddyn Newydd Dda! yn dod yn fyw o Gwyl y Gaeaf yng Nghaerdydd lle bydd llu o westeion yn ymuno yn y dathlu o'r brifddinas ac hefyd yn fyw o Nant Gwrtheyrn. |