Gwlad yr Astra Gwyn
Mae'r gyfres ddrama ysgafn, Gwlad yr Astra Gwyn yn dychwelyd i S4C wrth i anturiaethau Trefor Tacsis barhau.
Daeth Trefor i'r sgrîn am y tro cyntaf fel rhan o gyfres Ddoe am Ddeg, ond roedd poblogrwydd y cymeriad yn ddigon i sicrhau cyfres o chwe rhaglen hanner awr ar gyfer S4C.
"Mae Rondo yn falch iawn fod y cymeriad wedi esblygu o gyfres Ddoe am Ddeg ac wedi ennill ei blwyf fel sail i gyfres ar ei thraed ei hun," meddai Bedwyr Rees y cynyrchydd.
Bydd y gyfres yn dechrau nos Iau 19 Ionawr am 2200 ar S4C.