Pryd o Sêr

Pryd o Sêr

Mae Dudley Newbery yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C wedi iddo gyflwyno rhaglenni coginio ar gyfer y sianel ers dros 20 mlynedd.

Ac fel y twrci, tinsel a chanu carolau, mae hi bron yn draddodiad Nadoligaidd erbyn hyn i Dudley dywys wyth o sêr S4C ar wibdaith gogyddol o amgylch Cymru!

Bydd y cogydd herio'r sêr er mwyn darganfod pwy sydd yn ymdopi orau yng ngwres y gegin a phwy fydd yn gallu gorffen y gyfres gan goginio pryd tri chwrs?

Yr wyth dewr sydd wedi derbyn yr her i ymddangos yn y dair rhaglen dros gyfnod y Nadolig yw Ffion Dafis, Sian Lloyd, Courtney Hamilton, Eleanor Burnham, Hywel Davies, Wyn Davies, Rhodri Williams a Steffan Rhodri.

Gallwch ymuno yn yr hwyl yn ystod y rhaglenni os ydych chi yn defnyddio Twitter wrth drydar #prydoser a chael barn Dudley, y sêr ac, wrth gwrs, eich y cyd wylwyr!

Bookmark and Share