Mark Evans: Llanrhaeadr a Llundain
Mae Mark Evans o Lanrhaeadr ger Dinbych wedi ymddangos mewn rhai o sioeau cerdd enwocaf y byd theatre fel High School Musical, The Rocky Horror Show ac Oklahoma.
Ac mewn rhaglen fydd yn cael ei ddarlledu dros gyfnod y Nadolig, mae Rondo wedi treulio blwyddyn yng nghwmni Mark.
Er perfformio o amgylch Prydain, Ewrop ac er chwarae sawl prif ran ar rai o lwyfanau enwocaf Prydain yn y West End, mae Mark yn teimlo fod cyrraedd prif lwyfan y West End i unryw fachgen neu ferch ifanc o gefn gwlad Cymru yn daith hir ac anodd iawn.
Oherwydd hyn mae Mark wedi cychwyn menter West End in Wales, sef gweithdy canu, dawnsio ac actio yn ôl yn ei gynefin yn ystod wythnos ym mis Awst.
A bydd y rhaglen yn dilyn Mark wrth iddo gynllunio y fenter gyffrous am y bumed flwyddyn yn ogystal âg ambell i brosiect difyr arall ym mywyd Mark gan gynnwys recordio ei albwm gyntaf.
Byddwn hefyd yn gweld Mark yn gwireddu breuddwyd wrth iddo chware un o brif rannau yn sioe Wicked yn y West End, un o'r sioeau cerdd mwya poblogaidd yn y byd!