Dudley ar daith

Dudley ar daith

Mae Dudley Newbery yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C wedi iddo gyflwyno rhaglenni coginio ar gyfer y sianel ers dros 20 mlynedd.

Yn ogystal ag ymweld â phob cwr o Gymru, mae ei gyfresi coginio, enillodd wobr BAFTA Cymru, wedi ymweld â lleoliadau egsotic a lliwgar fel Gwlad Thai, Jamaica a’r Eidal.

Yn ei gyfres newydd bydd y cyflwynydd poblogaidd yn teithio o amgylch Cymru yn cwrdd â chynhyrchwyr bwyd lleol yn ogystal choginio mewn lleoliadau heb eu ail.

Mae Rondo wedi bod yn arloesol yn eu triniaeth o raglenni coginio dros y blynyddoedd ac wedi gwneud y defnydd gorau o blatfformau digidol.

O'r sgrîn deledu, i'r sgrîn gyfrifiadurol a chyda fodlediadau, blogiau a phresenoldeb ar wefanau cymdeithasol, mae Rondo wedi parhau i dorri tir newydd gyda'u rhaglenni coginio.

Cyfres newydd ar S4C o 26 Tachwedd

Bookmark and Share