Gŵyl Gerdd Dant

Gŵyl Gerdd Dant

Mae Rondo yn falch o adeiladu ar eu harbenigedd o ddarlledu cyngherddau a digwyddiadau cerddorol trwy gynhyrchu rhaglen flynyddol o'r Ŵyl Gerdd Dant ar gyfer S4C.

Darlledwyd dros wyth awr o raglenni byw o'r ŵyl yn 2011 er mwyn sicrhau holl gyffro'r cystadlu a holl liw o gefn llwyfan o ddigwyddiad diwylliannol traddodiadol undydd mwyaf Cymru.

Gyda phrofiad helaeth o ddarlledu Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen ers 1994 a chyda'r cwmni wedi darlledu llu o gyngherddau byw mae arbenigedd Rondo yn y byd darlledu digwyddiadau cerddorol yn amlwg.

Bookmark and Share