Zanzibar
Gan adeiladu adeiladu ar eu harbenigedd o gynhyrchu drama o safon, mae Rondo yn falch iawn o gynhyrchu drama newydd i bobl ifanc ar gyfer S4C.
Haul, syrffio, rhyw, cyffuriau a phryder cyson am arian – dyna yw bywyd i’r criw o bobl ifanc yng nghyfres ddrama, Zanzibar.
Mae'r gyfres secis, cignoeth, doniol a thywyll i bobl ifanc yn gosod y chwyddwydr ar un haf ym mywydau cwlwm o ffrindiau sy'n cwrdd ym mar Zanzibar yn nhref Aberystwyth.
O Tom a Danny sydd dan bwysau cynyddol gan eu rhieni i Rhian y fyfyrwraig ddrama sydd â phroblemau mawr ariannol; Huw a’i six-pack a’i gyfrinach fwy; Miriain sy’n blasu rhyddid am y tro cyntaf, Dai Donkey y cês; Kate sy’n neidio o wely i wely a Gwenno sy’n rhannu ei gwely â darlithydd priod - mae bywydau pob un yn croesi yn nhafarn Zanzibar a’i hystafelloedd aros uwchben.