Perthyn

Perthyn

Yn y gyfres newydd ar gyfer S4C, bydd Heledd Cynwal a thîm o arbenigwyr o’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn rhoi rhai o’ch straeon teuluol chi dan y chwyddwydr.

S’dim ots i ble yr ewch chi yn y byd, dy’n ni’r Cymry wastad yn holi, i bwy ’dych chi’n perthyn, neu o ble ’dych chi’n dod?

Mae hel achau bron yn obsesiwn cenedlaethol, ac yn ystod y gyfres hon bydd Perthyn yn rhoi cyngor ar sut i fynd ati i hel achau ac yn darganfod mwy am wreiddiau wyth teulu gwahanol..

Oes gennych chi stori ddifyr yn hanes eich teulu ac angen help i ddarganfod mwy? Cysylltwch â perthyn@rondomedia.co.uk