Porthpenwaig

Porthpenwaig

Mae Rondo yn falch o allu adeiladu ar eu harbenigedd o gynhyrchu drama o safon, trwy gynhyrchu Porthpenwaig, drama wyth rhan sydd wedi ei lleoli ym mhrydferthwch gogledd Pen Llŷn ar gyfer S4C.

Cafodd y gyfres ei ffilmio ym mhentref Aberdaron yn ystod yr haf ac hydref 2010 gyda'r pentref yn troi'n un set deledu enfawr wrth i'r gwesty a'r siop leol gael edrychiad newydd yn arbennig ar gyfer Porthpenwaig.

Prif ganolbwynt y gyfres yw Huw Ynyr, mab perchennog y gwesty lleol, a'r triongl emosiynol sydd yn ei fywyd.

Ar ôl graddio mae'n rhaid i Huw ddewis os ydi o am ddychwelyd i'r pentref lle cafodd ei fagu ac at ei gariad bore oes, neu ydi o'n diflannu am fywyd cyffrous y ddinas fawr yng Nghaerdydd gyda'i gariad Coleg?

Bookmark and Share