Indian Doctor
Mae Rondo yn hynod o falch o fod yn cynhyrchu ail gyfres o'r ddrama gomedi, The Indian Doctor ar gyfer BBC One.
Roedd y gyfres 5 x 45 munud cyntaf, welodd Sanjeev Bhaskar yn chwarae rhan meddyg sydd wedi mewnfudo i Gymru yn y 1960au, yn canolbwyntio ar feddygon Asiaidd ddaeth i Brydain ar wahoddiad y gweinidog iechyd, Enoch Powell.
Fe'i dangoswyd fel rhan o strand o raglenni ffeithiol gan y BBC yn canolbwyntio ar y newidiadau ym mywyd cymdeithasol Prydain yn ystod y ddegawd a chafodd y gyfres gryn ganmoliaeth gan wylwyr ac adologwyr a llwyddodd i gipio gwobr y Royal Television Society.
Cafodd y cyd-gynhyrchiad gyda chwmni Avatar ei ffilmio ym Mlaenafon, Sir Fynwy a chafodd ei ddarlledu yn ystod mis Tachwedd 2010.
Bydd yr ail gyfres, sy'n canolbwyntio ar adeg lle'r roedd frech wen yn frith yn gyffredin yng nghymoedd de Cymru, yn cael ei ddangos yn gynnar yn 2012.