Mentro
Oes gennych chi dalent?
Eisiau trio rhywbeth hollol newydd?
Hoffech chi weithio gydag arbenigwr yn y maes perfformio?
Bydd Mentro yn herio dau unigolyn neu grŵp â thalent arbennig i gyfnewid lle am wythnos a dysgu talent newydd sbon gyda help mentor adnabyddus!
Os ydych chi rhwng 11 a 15 oed ac yn siarad Cymraeg, ac os oes gennych chi dalent mewn unrhyw faes perfformio ac eisiau bod ar y teledu, gofynnwch i'ch athro/athrawes cerdd neu ddrama am ffurflen gais.
Bydden ni wrth ein bodd yn derbyn fideo o'ch talent, felly pam na ofynnwch chi i ffrind greu fideo gallwch chi ei anfon aton ni? Mae unrhyw fformat yn iawn, ac mae croeso e-bostio’r fideos neu’r linc i’r fideos aton ni.
Ebostiwch gruff@rondomedia.co.uk