Sgorio
Mae gan Rondo dros 20 mlynedd o brofiad o ddarlledu rhaglenni pêl-droed ar gyfer S4C.
Mae'r brand Sgorio wedi bod yn rhan annatod o ddarlledu chwaraeon S4C ers 1988 gydag uchafbwyntiau wythnosol o bêl-droed Ewropeaidd o gynghreiriau Sbaen, Yr Eidal, Yr Almaen a'r Iseldiroedd.
Ers i gêm ddarbi cyntaf Johan Cruyff fel rheolwr Barcelona gael ei weld ar setiau teledu Cymru ar 5 Medi 1988, mae Rondo wedi darlledu dros 1,000 awr o raglenni pêl-droed ar gyfer S4C.
Yn 2008 llwyddodd Rondo i ennill proses tendr S4C er mwyn cynhyrchu gemau byw ac uchafbwyntiau o dîm cenedlaethol Cymru yn ogystal a gemau Uwch Gynghrair Cymru.
Mae profiad Rondo o ddarlledu gemau rhyngwladol a phêl-droed domestig o dan faner Sgorio wedi gweld y tîm yn darlledu'n fyw o lefydd fel Reykjavik, Vaduz, Helsinki, Podgorica a Hwlffordd!
Yn ogystal â sawl gêm fyw rhyngwladol, rydym wedi darlledu gemau'n fyw ac yn ecsgliwisif ar gyfer S4C o Gynghrair Pencampwyr Uefa, Cynghrair Europa Uefa, Cwpan FA, Cwpan Cymru ac Uwch Gynghrair Cymru.
Mae Rondo wedi bod yn arloesol wrth ddarlledu Uwch Gynghrair Cymru gyda sawl elfen aml blatfform i'n ymdriniaeth o'r gynghrair.
Yn ogystal â llifo uchafbwyntiau o'r gemau ar wefan Sgorio ein podcast uchafbwyntiau oedd y cyntaf i gael ei gynnig trwy'r iaith Gymraeg.
Ac rydym bellach yn darlledu gêm fyw o Uwch Gynghrair Cymru pob prynhawn Sadwrn gyda gwasanaeth canlyniadau cynhwysfawr o ganlyniadau pêl-droed y prynhawn.


