Cynyrchiadau Cyfredol
-
Gwlad yr Astra Gwyn
Mae'r gyfres ddrama ysgafn, Gwlad yr Astra Gwyn yn dychwelyd i S4C wrth i Trefor Tacsis sicrhau ei gyfres ei hun. -
Dudley ar daith
Mae Dudley Newbery yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C wedi iddo gyflwyno rhaglenni coginio ar gyfer y sianel ers dros 20 mlynedd. -
Indian Doctor
Mae Rondo yn hynod o falch o fod yn cynhyrchu ail gyfres o'r ddrama gomedi, The Indian Doctor ar gyfer BBC One. -
Porthpenwaig
Mae Rondo yn falch o allu adeiladu ar eu harbenigedd o gynhyrchu drama o safon, trwy gynhyrchu Porthpenwaig, drama wyth rhan sydd wedi ei lleoli ym mhrydferthwch gogledd Pen Llŷn ar gyfer S4C.
-
Rownd A Rownd
Darlledwyd y bennod gyntaf o'r gyfres Rownd a Rownd ym 1995 fel yr opera sebon cyntaf i blant yn Gymraeg, ond bellach mae wedi llwyddo i ennill ei phlwy' fel cyfres boblogaidd ar gyfer y teulu cyfan.
-
Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen
Rydym ni yn hynod o falch o fod wedi darlledu rhaglenni arbennig ar gyfer S4C ac S4C Digidol o Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ers 1994.
Am restr lawn o gynyrchiadau, gweler yr adrannau cynhyrchu cyfredol ac archif.