
Rhaglen arbennig yn talu teyrnged ac yn diolch am gyfraniad cerddorol y diweddar Sioned James. Cawn gyfle i edrych nôl ar fywyd y ferch ddireidus o Landysul, a dilyn ei thaith gerddorol o’i chyfnod cynnar yn yr ysgol a’r capel yn Llandysul i’w chyfnod diweddar wrth sefydlu Côrdydd. Cawn gyfweliadau gan ffrindiau a chyfoedion yn ogystal â pherfformiadau arbennig o’r archif.
Nos Wener, Ebrill 07, 9.30pm S4C
1 x 60”